Cwpan Rygbi’r Byd 2019 – Taenlen Gwl@d

Mae’r timoedd oll wedi cyrraedd Japan erbyn hyn, a’r croeso gwresog gafodd tîm Cymru yn Kitakyushu mewn sesiwn hyfforddi y bore yma – chwiliwch ar Twitter, mae’n ysgytwol – yn codi’r galon a’r cyffro wrth inni edrych mlaen at gychwyn y bencampwriaeth ddydd Gwener.

Rhag ofn i bethau fynd drosben llestri, rydym ni yma ar Gwl@d wedi penderfynu diflasu pethau ychydig wrth fynnu bod ein cyfranwyr yn edrych ar daenlen. Ond na phoener! Taenlen yw hon fydd yn eich galluogi i gadw trac ar ddatblygiad y gystadleuaeth, o drefn y gemau i amseroedd y gic gyntaf, cyn darogan (a wedyn cadarnhau) pwy fydd yn wynebu pwy yn yr wyth olaf ac ymlaen i’r ffeinal. Bydd y daenlen yn gweithio’r holl beth mas i chi, y jiawled lwcus.

Felly, dyma hi. Joiwch!

Cwpan Rygbi’r Byd 2019 – Taenlen Gwl@d

Leave a comment